THE A4042 TRUNK ROAD (CWMBRAN ROUNDABOUT TO PONTYPOOL ROUNDABOUT, TORFAEN) (TEMPORARY TRAFFIC PROHIBITIONS AND 40 MPH SPEED LIMIT) ORDER 201
Notice ID: NP4383629
HYSBYSIAD STATUDOL STATUTORY NOTICE
I gael copi print bras o'r Hysbysiad hwn, For a large print copy of this Notice
ffoniwch 03000 255 454 neu ebostiwch contact 03000 255 454 or email
Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru Transportordersbranch@gov.wales
Llywodraeth Cymru Welsh Government
GORCHYMYN CEFNFFORDD YR A4042 (CYLCHFAN CWMBRAN I GYLCHFAN PONT-Y-PWl, TORFAEN) (GWAHARDDIADAU TRAFFIG A THERFYN CYFLYMDER 40 MYA DROS DRO) 201-
PONT-Y-PWl,
MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ymhen dim llai na 7 niwrnod i ddyddiad yr Hysbysiad hwn. Mae angen y Gorchymyn arfaethedig i wneud gwaith ar gefnffordd yr A4042, neu gerllaw iddi, rhwng Cylchfan Cwmbran a Chylchfan Pont-y-pwl, Torfaen.
Effaith y Gorchymyn arfaethedig fydd gwneud y canlynol dros dro:
i) gwahardd pob cerbyd (ac eithrio'r rhai a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys ac ar gyfer y gwaith) a beicwyr rhag mynd ar y darn o gefnffordd yr A4042 a bennir yn Atodlen 1 i'r Hysbysiad hwn. Pennir y llwybrau eraill yn Atodlen 2 i'r Hysbysiad hwn.
ii) gosod terfyn cyflymder 40 mya, fel y bo angen, ar y darn o gefnffordd yr A4042 a bennir yn Atodlen 3 i'r Hysbysiad hwn.
Disgwylir y bydd y gwaharddiadau a'r cyfyngiad, y codir arwyddion priodol yn eu cylch, yn weithredol yn ysbeidiol dros nos rhwng 20:00 o'r gloch hyd 06:00 o'r gloch rhwng 21 Hydref 2019 a 28 Mawrth 2020 neu hyd nes y caiff yr arwyddion traffig dros dro eu symud ymaith yn barhaol.
Dim ond yn ystod y dyddiadau a bennir uchod y disgwylir i'r Gorchymyn arfaethedig fod yn weithredol.
Er hynny, bydd yn parhau'n ddilys am gyfnod o 18 mis ar y mwyaf rhag ofn y bydd angen ailamserlennu'r gwaith neu wneud gwaith canlyniadol neu waith arall.
J SADDLER, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
ATODLEN 1 Gwahardd Cerbydau a Beicwyr Dros Dro
Y darn o gefnffordd yr A4042 sy'n ymestyn o'i chyffordd a phrif gerbytffordd gylchredol Cylchfan
Cwmbran hyd at ei chyffordd a phrif gerbytffordd gylchredol Cylchfan Pont-y-pwl.
ATODLEN 2 Llwybrau Eraill
1. Y llwybr arall ar gyfer traffig nad yw'n draffig traffordd ac sy'n teithio tua'r gogledd o Gylchfan Cwmbran yw dilyn yr A4042 tua'r de i Gylchfan Grove Park, parhau ar yr A4042 i Gyffordd Old Town Dock yr A48, dilyn Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol Casnewydd tua'r dwyrain i Gyffordd 24 (Cyfnewidfa
Coldra), yr A449 tua'r gogledd i Gyfnewidfa Rhaglan a'r A40 tua'r gorllewin i Gyfnewidfa Hardwick. I'r
gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r de o Gylchfan Pont-y-pwl.
2. Y llwybr arall ar gyfer traffig traffordd sy'n teithio tua'r gogledd o Gylchfan Grove Park yw mynd ar
yr M4 wrth Gyffordd 25a (Grove Park) tua'r dwyrain i Gyffordd 24 (Cyfnewidfa Coldra), ac ymadael yno
i ddilyn gweddill y llwybr arall a ddisgrifir uchod. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig traffordd sy'n teithio tua'r de.
3. Y llwybr arall ar gyfer beicwyr sy'n teithio tua'r gogledd o Gylchfan Cwmbran yw dilyn Heol
Casnewydd tua'r dwyrain ac yna Pont-Y-Felin Road tua'r gogledd, Heol Newydd a Coed-y-Gric Road tua'r gorllewin, Stafford Road tua'r gogledd, Rockhill Road tua'r gogledd-ddwyrain a'r A472 tua'r de-ddwyrain i ailymuno a'r A4042 wrth Gylchfan Pont-y-pwl. I'r gwrthwyneb ar gyfer beicwyr sy'n teithio tua'r de o Gylchfan Pont-y-pwl.
ATODLEN 3 Terfyn cyflymder 40 mya dros dro
Y darn o gefnffordd yr A4042 rhwng Cylchfan Cwmbran a Chylchfan Pont-y-pwl gan gynnwys
cerbytffyrdd cylchredol y ddwy gylchfan.
THE A4042 TRUNK ROAD (CWMBRAN ROUNDABOUT TO PONTYPOOL ROUNDABOUT, TORFAEN) (TEMPORARY TRAFFIC PROHIBITIONS AND 40 MPH SPEED LIMIT) ORDER 201-
THE WELSH MINISTERS propose, in not less than 7 days from the date of this Notice, to make an
Order under section 14 of the Road Traffic Regulation Act 1984, which is necessary to undertake
works on or near the A4042 trunk road between Cwmbran Roundabout and Pontypool Roundabout, Torfaen.
The effect of the proposed Order will be to temporarily:
i) prohibit all vehicles (other than those being used by the emergency services and for the works) and cyclists from proceeding on the length of the A4042 trunk road specified in Schedule 1 to this Notice. The alternative routes are specified in Schedule 2 to this Notice.
ii) impose a 40 mph speed limit, as required, on the length of the A4042 trunk road specified in
Schedule 3 to this Notice.
The prohibitions and restriction, which will be signed accordingly, are expected to operate intermittently overnight between 20:00 hours and 06:00 hours from 21 October 2019 until 28 March 2020 or until the temporary traffic signs are permanently removed.
Although the proposed Order is only expected to operate during the dates specified above it will remain valid for a maximum period of 18 months, as a contingency, should the work need to be rescheduled or consequential or other work is required.
J SADDLER, Transport, Welsh Government
SCHEDULE 1 Temporary Prohibition of Vehicles and Cyclists
The length of the A4042 trunk road that extends from its junction with the main circulatory carriageway of Cwmbran Roundabout to its junction with the main circulatory carriageway of Pontypool Roundabout.
SCHEDULE 2
Alternative Routes
1. The alternative route for non-motorway northbound traffic from Cwmbran Roundabout is via the southbound A4042 to Grove Park Roundabout, continue along the A4042 to the A48 Old Town Dock
Junction, proceed eastbound on the Newport Southern Distributor Road to Junction 24 (Coldra
Interchange), the northbound A449 to Raglan Interchange and westbound on the A40 to Hardwick
Interchange. Vice versa for southbound traffic from Pontypool Roundabout.
2. The alternative route for motorway northbound traffic from Grove Park Roundabout is via the M4 at
Junction 25a (Grove Park) and proceed eastbound to Junction 24 (Coldra Interchange), there exiting to
follow the remainder of the alternative route described above. Vice versa for southbound motorway traffic.
3. The alternative route for northbound cyclists from Cwmbran Roundabout is eastbound on Newport Road then northbound on Pont-Y-Felin Road, westbound on New Road and Coed-y-Gric Road, northbound on Stafford Road, north-eastbound on Rockhill Road and south-eastbound on the A472 to re-join the A4042 at Pontypool Roundabout. Vice versa for southbound cyclists from Pontypool Roundabout.
SCHEDULE 3 Temporary 40 mph speed limit
The length of the A4042 trunk road between Cwmbran Roundabout and Pontypool Roundabout including
the circulatory carriageways of both roundabouts.
Comments