CYNGOR SIR FYNWY HYSBYSIAD RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO ADRAN 14 - DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFORDD 1984
Notice ID: NP4117679
CYNGOR SIR FYNWY HYSBYSIAD RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO ADRAN 14 - DEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFORDD 1984 CYNGOR SIR FYNWY (HEOL Y PARC, COED-Y-PAEN, SIR FYNWY) HYSBYSIAD RHEOLEIDDIO TRAFFIG DROS DRO 2017
HYSBYSIR DRWY HYN bod CYNGOR SIR FYNWY yn bwriadu gwneud Gorchymyn Cau Ffordd dan Adran 14 Deddf Rheoleiddio Traffig Ffordd 1984, fel y'i diwygiwyd, a fydd â’r effaith o gau dros dro i gerbydau'r darnau o'r ffordd a bennir yn yr Atodlen i'r Hysbysiad hwn. Mae angen cau'r ffordd er mwyn ymgymryd â gwaith gosod draeniad newydd, fel rhan o gynllun lliniaru llifogydd, mewn modd diogel. Daw'r Gorchymyn i rym ar 30ain Hydref 2017 am gyfnod o saith wythnos a bydd yn gweithredu 24 awr y dydd. Bydd mynediad rhesymol yn cael ei gynnal ar gyfer eiddo sydd ar hyd y ffyrdd a effeithir arnynt yn ystod cyfnod y cau. Yn sgil Adran 16(1) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffordd 1984 bydd person sy'n torri cyfyngiad neu waharddiad a osodir dan Adran 14 y Ddeddf yn euog o drosedd. FFYRDD AMGEN Bydd y llwybr dargyfeirio fel a ganlyn: i. ar Heol y Parc, o'i chyffordd â Rhodfa Cilwrgi tua'r de-ddwyrain i'r gyffordd â Heol Caerderri; yna ii. tua'r gogledd-ddwyrain ar Heol Caerderri i'w chyffordd â’r ffordd Coed-y-paen i Brescoed Uchaf i Lanbadog Fawr; yna iii. mewn cyfeiriad gorllewinol ar y ffordd Coed-y-paen i Brescoed Uchaf i Lanbadog Fawr i'w gyffordd â ffordd Coed-y-paen i Lascoed; yna iv. tua'r de-orllewin ar ffordd Coed-y-paen i Lascoed ac i'r gwrthwyneb. Dyddiedig: 18fed Hydref 2017 Robert Tranter, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Cyngor Sir Fynwy, Blwch Post 106, Cil-y-coed, Sir Fynwy, NP26 9AN. ATODLEN Heol y Parc, Coed-y-paen O'r gyffordd â’r heol o Goed-y-paen i Lascoed i'r gyffordd â Rhodfa Cilwrgi, am bellter o oddeutu 625 metr i gyfeiriad de-ddwyreiniol yn gyffredinol.
Newport City Council
Civic Centre , Newport , South Wales , NP20 4UR
info@newport.gov.uk http://www.newport.gov.uk 01633 656 656
Comments