Mae’r prentis o Gaerdydd, Nooh Omar Ibrahim, am greu cymuned rygbi gynhwysol newydd yng Nghymru ar ôl syrthio mewn cariad â’r gêm yn ystod ei brentisiaeth.

I ddathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru, mae am annog pobl ifanc eraill sy’n meddwl am eu camau nesaf i fanteisio ar unrhyw gyfle sydd ar gael a dilyn eu calon.

Mae Nooh, o Gaerdydd, wedi dwlu ar chwaraeon erioed, ond cafodd ei hun ar faes rygbi yn annisgwyl ar ôl cael trafferth i ymdopi yn y coleg.

“Pan ro’n i’n meddwl am fy nghamau nesaf yn yr ysgol, cefais fy annog i fynd am swydd ym maes TG, busnes neu wyddoniaeth hyd yn oed, fel llawer o bobl eraill. Ond pan es i ymlaen i astudio’r pynciau hyn i Safon Uwch, daeth y cyfnod clo, ac fe gafodd hyn effaith fawr arna i. Fe gollais i ddau aelod o’r teulu ar yr un pryd, ac ro’n i’n cael trafferth i ganolbwyntio yn y coleg.

“Ro’n i mewn penbleth braidd a ddim yn siŵr beth i’w wneud gyda fy mywyd; ro’n i angen ffocws newydd. Fe gymerais i flwyddyn i ffwrdd a wnaeth i mi gwestiynu beth ro’n i’n teimlo’n angerddol amdano. Dyna pryd y gwelais gyfle gydag Undeb Rygbi Cymru fel Prentis Datblygu Rygbi.

“Do’n i erioed wedi chwarae rygbi a do’n i ddim yn gwybod dim am y gêm. Yn tyfu i fyny yn Butetown ro’n i ond yn adnabod llond llaw o bobl a oedd yn deall unrhyw beth am rygbi. Ond dwi wrth fy modd yn cadw’n heini ac rwy’n egnïol iawn. Roedd ymgeisio am y cyfle y tu allan i’r hyn ro’n i’n gysurus yn ei wneud ond ro’n i’n barod am her newydd.”

Ar ôl cyflwyno ei gais am brentisiaeth gwahoddwyd Nooh i fynychu rhaglen cyn-dethol am ddeuddydd gyda phobl ifanc eraill o bob cwr o Gymru.

South Wales Argus:

“Ro’n i ar y dyddiau dethol gyda phobl a oedd wedi bod yn chwarae rygbi ers pan roedden nhw’n 5 oed. Ro’n i’n teimlo o dan anfantais, felly roedd yn rhaid i mi wneud yn siŵr mod i’n dangos fy angerdd tuag at chwaraeon a hyfforddi, a pharodrwydd i ddysgu a rhoi cynnig ar bethau newydd. Ro’n i wrth fy modd pan wnaethon nhw gynnig y swydd i fi, ac fe ysgogodd hyn fi i weithio’n galed yn fy mhrentisiaeth.

Mae’r rhaglen 12 mis yn cynnig cymhwyster Datblygu Chwaraeon Lefel 3 a sgiliau newydd a phrofiad yn y swydd i brentisiaid fel Nooh.  

“Fel prentis, fy rôl yw helpu’r tîm ehangach gyda gweithgareddau rygbi allgyrsiol i bobl ifanc yn y gymuned, mewn ysgolion ac mewn clybiau. Ein nod yw cael pobl ifanc i gymryd rhan yn y gêm a’u mentora fel y gallan nhw ddatblygu eu sgiliau.

“Dwi wrth fy modd yn hyfforddi a gweithio gyda phobl ifanc. Yn ddiweddar cefais gyfle i drefnu a rheoli digwyddiad rygbi yn Grangetown gyda phlant oedd heb chwarae rygbi o’r blaen. Roedden nhw wrth eu boddau ac yn gofyn i fi pryd y gallen nhw chwarae eto.

“Mae’n rhoi cymaint o foddhad – gwybod mod i wedi cyflwyno gêm y gallen nhw ddod i’w charu. Ches i mo’r cyfle hwnnw wrth dyfu i fyny, felly dwi am gyflwyno rygbi i gymunedau amrywiol eraill yng Nghymru a gwneud y gêm mor gynhwysol â phosibl.”

Mae prentisiaeth Nooh wedi ei alluogi i syrthio mewn cariad â’r gêm, ond mae hefyd wedi datblygu’n bersonol ers dechrau yn y swydd.

“Er mai datblygu rygbi yw fy mhrentisiaeth, mae hyn yn fwy na rygbi. Mae wedi fy helpu i dyfu fel person - dwi nawr yn fwy hyderus, dwi’n gallu dod â safbwynt newydd i’r tîm, ac maen nhw’n ymddiried ynof i weithio’n annibynnol. Mae’n broses ddwyffordd sydd o fudd i mi a’m cyflogwr. Dwi’n dysgu drwy’r amser ac yn teimlo mod i’n cael fy nghefnogi drwy’r amser; mae yna drafodaeth agored a dwi’n cael gofyn cwestiynau os oes angen.

“Mae wedi fy ngalluogi i deithio ledled Cymru a datblygu cysylltiadau cryf a fydd yn fy mharatoi ar gyfer y dyfodol. Yn fwy na hynny, dwi’n cael cymhwyster chwaraeon a chael fy nhalu yr un pryd.”

South Wales Argus:

Ers dechrau ei brentisiaeth dyw Nooh heb edrych yn ôl ac mae’n ystyried pa mor bell mae wedi dod dros y 12 mis diwethaf.

“Mae fy mhrentisiaeth wedi rhoi’r hyder i mi wybod beth dwi’n gallu ei gyflawni – ro’n i angen yr hwb hynny. Os ydych chi’n gweithio’n galed ac yn barod i ddysgu fe allwch chi gyflawni unrhyw beth. Edrychwch arna i, amser yma y llynedd do’n i ddim yn gwybod beth oedd ‘ryc’, a nawr dwi’n hyfforddwr cymwysedig, yn ddyfarnwr, ac yn gweithio tuag at sefydlu tîm rygbi llawn yn Grangetown a Butetown. 

“I unrhyw berson ifanc sy’n meddwl am ei gamau nesaf, os oes unrhyw gyfle yn dod i’ch rhan, byddwch yn barod a manteisiwch arno. Mae fy mhrentisiaeth wedi fy helpu i droi fy mrwdfrydedd am chwaraeon yn yrfa ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth fydd fy her nesaf.”

Meddai Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae prentisiaethau yn ddewis doeth, i gyflogwyr sy’n ceisio diogelu eu gweithluoedd at y dyfodol wrth feithrin talent sy’n bodoli yng Nghymru eisoes, ac i bobl sydd eisiau dilyn llwybr i gyflogaeth sy’n rhoi’r cyfle i ddysgu wrth ennill cyflog.

“Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn gyfle i ni gynyddu ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â phrentisiaethau yng Nghymru, a thynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ar hyn o bryd.

“Rwy’n credu y bydd prentisiaethau’n hanfodol wrth i ni ddod allan o’r pandemig. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i greu 125,000 o leoedd Prentisiaeth ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf. Rydyn ni’n wlad fechan ond mae gyda ni uchelgeisiau mawr, a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle y bydd recriwtio prentis yn dod yn weithred arferol i gyflogwyr.”

Mae’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

I weld pa gyfleoedd prentisiaeth sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd, cer i’r Gwasanaeth Chwilio am Brentisiaeth.

Am ragor o wybodaeth ynghylch bod yn brentis, cer i www.llyw.cymru/prentisiaethaucymru neu ffonia 0800 028 4844.

Hoffa ni ar Facebook neu ddilyn ni ar Twitter.