Hawliau gydol oes yw hawliau dynol. Rydym yn cydnabod nad yw’r wefan gyfan ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd ond rydym yn gweithio'n galed i newid hyn yn fuan iawn.

Nid oes terfyn oedran. Dyma'r neges y mae Age Cymru wedi bod yn ei lledaenu ledled Cymru drwy ein hymgyrch hawliau dynol. Efallai eich bod eisoes wedi gweld ein neges ar fagiau fferyllol, ar fysiau, ac mewn ysbytai yn eich ardal.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o hawliau dynol pobl hŷn. Weithiau gall siarad am hawliau dynol swnio'n haniaethol neu'n academaidd, ond bob dydd rydym yn dod ar draws sefyllfaoedd sy'n ymwneud â'n hawliau dynol.  Mae pobl hŷn yn cymryd rhan mewn cymdeithas, a dylem oll fod yn medru disgwyl bod ein hawliau dynol yn cael eu cynnal. 

I ddechrau sgyrsiau am ein hawliau rydyn ni wedi cynhyrchu ffilm fer, animeiddiedig newydd o'r enw Paid a Dechrau.

Paid a Dechrau

Yn ein ffilm fe welwch chwech o bobl hŷn o Gymru yn cael eu cyfweld am yr hyn y mae hawliau dynol yn ei olygu iddynt. Mae ein cyfranogwyr yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd ac mae pob un ohonynt yn dod â phrofiadau bywyd unigryw i'r sgwrs.

Mae Amal, Louisa, Wyn, Jenny-Anne, Jeanette a Kay yn trafod pynciau fel urddas, gwahaniaethu, hunanfynegiant, a'r hawl i ddefnyddio'r iaith o'ch dewis.

Mae'r ffilm wedi cael ei darlunio a'i hanimeiddio gan ymarferwyr celfyddydau cymunedol Jon Ratigan ac Emma Prentice, ac fe'i cyflwynir gan yr Athro John Williams, Athro Emeritws y gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth a Chadeirydd Age Cymru.

South Wales Argus: Paid a DechrauPaid a Dechrau

Yr Athro Williams sy'n cyflwyno'r ffilm, gan ddweud, "nid yw hawliau dynol yn lleihau gydag oedran. Fel pobl hŷn, mae gennym hawl i'r un hawliau dynol â phob cenhedlaeth arall."

Dywed Louisa, actor 70 oed ac ymgyrchydd undeb o Lanfair-ym-muallt, "Mae gen i'r un hawliau ag unrhyw un sy'n anadlu'r un aer â fi... Mae gen i'r hawl i fod yn fi."

Mae'r ffilm yn rhan o gynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer y strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio.  Mae llawer o'r pwyntiau yn y cynllun ar gyfer gwneud Cymru'n lle gwych i dyfu'n hŷn hefyd yn cael eu hategu gan y bobl hŷn sydd ar gamera; sicrhau bod pobl hŷn yn cael dewisiadau, eu bod yn ddiogel rhag cael eu cam-drin a'u bod yn gallu cael gafael ar adnoddau cymunedol fel toiledau a pharciau.

South Wales Argus: Paid a DechrauPaid a Dechrau

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan "Rydym am greu Cymru lle mae pawb yn edrych ymlaen at dyfu'n hŷn, lle mae oedran yn cael ei ddathlu. Ein Gweledigaeth yw Cymru sy'n ystyriol o oedran sy'n cefnogi pobl o bob oed i fyw ac i heneiddio'n dda. Yn rhy aml, mae mynd yn hŷn yn gysylltiedig â salwch a dirywiad ac mae cyfraniadau pobl hŷn i gymdeithas yn cael eu hanwybyddu."

"Rwyf bob amser yn mwynhau clywed gan bobl am eu profiadau ac ni ddylai unrhyw un gael ei anwybyddu oherwydd oedran. Mae'r fideo hwn yn ein hatgoffa o ba mor angerddol y gall pobl hŷn fod ynghylch peidio â gadael i oedran effeithio ar eu hawliau a'r lle hanfodol sydd ganddynt o hyd mewn cymunedau ledled Cymru."

South Wales Argus: Paid a DechrauPaid a Dechrau

Eisiau gwybod mwy?

Bydd aelodau o dîm ymgysylltu Age Cymru yn dangos y fideo mewn grwpiau a digwyddiadau ledled Cymru. Rydym yn gyffrous i fynd allan a siarad â phobl am eu hawliau! Os hoffech eu gwahodd i grŵp yr ydych yn rhan ohono, cysylltwch â ni humanrights@agecymru.org.uk.

Gallwch wylio'r ffilm a dysgu am Brosiect Hawliau Dynol Age Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, ar ein gwefan: agecymru.org.uk/hawliaudynol.  

Byddwn hefyd yn mynychu'r Eisteddfod yn Nhregaron rhwng Gorffennaf 30ain ac Awst 6ed, ar stondin 504. Ar 1 Awst byddwn yn canolbwyntio ar hawliau dynol, ac rydym wrth ein bodd i fedru dweud bydd y Dirprwy Weinidog Julie Morgan a'r Athro John Williams yn ymuno â ni. Os ydych chi'n mynychu'r Eisteddfod, byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno!