Mae drysau cyfle yn agor i ddegau o filoedd o bobl ifanc ac oedolion ledled Gwent diolch i gyngor a chefnogaeth gwasanaeth cynghori 'trwy gydol oes' newydd.

Dangosodd adroddiad blynyddol blwyddyn gyntaf Gyrfa Cymru Gwent wedi iddo gael ei ehangu i gynnwys pob oedran, bod ymhell dros 20,000 o bobl ifanc a mwy na 5,000 o oedolion wedi cysylltu ag arbenigedd ei 160 o staff sydd wedi eu lleoli ledled yr ardal.

Trwy weithio trwy ysgolion, colegau, gweithleoedd a lleoliadau cymunedol, bu'r staff a hyfforddwyd yn drylwyr yn helpu pobl i wneud penderfyniadau allweddol ar gyflogaeth ac addysg a all effeithio ar ran helaeth o'u hoes.

Roedd hyn yn cynnwys mwy na 800 o weithwyr dur oedd ar groesffordd yn eu bywydau oherwydd y toriadau mawr yn Llanwern a Glyn Ebwy.

Gan weithio mewn partneriaeth glos gydag ELWa, Canolfan Gwaith Plws (y Gwasanaeth Cyflogaeth) a phartneriaid eraill, bu ymgynghorwyr Gyrfa Cymru Gwent yn cynorthwyo nifer o'r gweithwyr hyn i ail-asesu eu talentau eu hunain a'u dyheadau a darganfod llwybrau newydd ar gyfer y dyfodol.

Roedd hyn yn cynnwys cyfleoedd dysgu i roi hwb i'w lefelau sgiliau a cheisio llwybrau mwy uchelgeisiol yn eu bywydau.

Yn ychwanegol at arweiniad ar hyfforddiant, roedd yr ymgynghorwyr yn medru arwain staff pryderus oedd yn wynebu diswyddiad trwy nifer o'r materion ymarferol sy'n codi, fel pwysau ariannol ac effaith colli'r swydd ar eu teuluoedd.

Dywedodd Prif Weithredwr Gyrfa Cymru Gwent, Trina Neilson, bod sefydlu'r gwasanaeth gyrfaoedd newydd i bob oedran wedi creu cyfleoedd newydd pwysig i'r corff gyrraedd pobl gyda chyngor a gwybodaeth werthfawr.

Er enghraifft, mae rhieni sydd wedi cael eu tynnu i mewn i'r broses arweiniad gyrfaoedd i gefnogi eu plant yn y gorffennol, yn awr yn cael eu targedu fel cleientiaid posibl ynddynt eu hunain - y gall tm Gyrfa Cymru Gwent eu helpu i ganolbwyntio ar eu dyheadau eu hunain.

Yn yr un modd mae nifer o oedolion yn dod i gysylltiad 'r gwasanaeth o ganlyniad i Cyswllt Addysg Busnes, sy'n dwyn yr ysgol a'r gweithle yn nes at ei gilydd.

Bu'r Gwasanaeth yn chwarae rl gynyddol yn iechyd yr economi lleol trwy greu ei Dm Datblygu Gweithle ei hun, sy'n gweithio gyda chyflogwyr i ddynodi cyfleoedd i gynyddu sgiliau eu staff - yn arbennig ar lefelau 2 a 3 yr NVQ.

Mae'r gwaith hwn hefyd wedi galluogi'r gwasanaeth i greu perthynas gyda chyflogwyr, a meithrin cysylltiadau llesol eraill rhyngddynt ag ysgolion lleol.

Mae'r gwasanaeth, yn ychwanegol at helpu pobl i ddynodi'r cyfleoedd gwaith a hyfforddiant sydd ar gael, hefyd yn rhoi'r sgiliau ymarferol iawn sy'n angenrheidiol i geisio'r cyfleoedd hyn.

Meddai Trina: "Mae chwilio am waith yn datblygu yn fusnes soffistigedig iawn. Fe fydd ar y rhan fwyaf ohonom angen rhywfaint o help. Mae hynny'n cynnwys cynorthwyo pobl i gyflwyno eu portffolio o sgiliau mewn ffordd glir ac effeithiol.

"Yn gynyddol rydym yn symud oddi wrth swyddi wedi eu cyfyngu oherwydd oed neu gymwysterau penodol. Rydym mewn byd mwy hyblyg lle mae'r sgiliau yn gludadwy. Rydym yn ceisio cyfleu i bobl y gallant ychwanegu at eu portffolio o sgiliau yn gyson gan agor cyfleoedd newydd.

"Mae'n bwysig i bawb lunio sylfaen trwy gael sgiliau sylfaenol ac allweddol fel llythrennedd a rhifedd, cyfathrebu da, gweithio mewn tm a datrys problemau sy'n berthnasol ym mhob swydd bron," ychwanegodd.

Ni fu sgiliau amrywiol cynghorwyr Gyrfa Cymru Gwent yn fwy amlwg yn unrhyw le nag yn y rhaglen Porth yr Ifanc, sy'n rhoi cefnogaeth hanfodol i bobl ifanc tua oedran gadael ysgol sy'n ei chael yn anodd i benderfynu pa lwybr i'w ddewis nesaf neu sy'n methu cael yr agoriad y maent yn ei ddymuno.

Trwy wybodaeth, cyngor, hyfforddi ymarferol mewn CV a sgiliau cyfweliad, yn ogystal chynyddu hyder a gwneud cysylltiadau, mae'r tm - sydd mewn tair canolfan ranbarthol - wedi helpu i ddatgloi cyfleoedd i nifer fawr o rai yn eu harddegau a allai fod wedi llithro fel arall a pheidio cael swydd neu addysg bellach.

Hwb arall i bobl ifanc yw'r Prosiect Dynamo, a reolir gan Gyrfa Cymru Gwent ar ran y WDA, a gynlluniad i agor llygaid rhai yn eu harddegau o ran byd menter.

Mae lliaws o "fodelau rl" sydd wedi sefydlu a rhedeg busnesau llwyddiannus yn mynd i mewn i ysgolion i rannu pleserau a gwirioneddau y math hwn o yrfa gyda'r bobl ifanc.

Mae hyn, medd staff Gyrfa Cymru, yn "mynd lawr fel bom" gyda'r disgyblion, llawer ohonynt erbyn hyn yn ychwanegu menter at yr amrywiaeth o ddewisiadau posibl sy'n agored iddynt pan fyddant yn cychwyn ar lwybr bywyd.