Roedd cael ei ddiswyddo yn golygu cychwyn newydd i weithiwr dur o Lanwern, Andrew Purves, a chyfle newydd i ddangos ochr ofalus ei gymeriad.

Gyda chymorth cyngor gyrfaoedd mae newydd gychwyn hyfforddiant i ddod yn nyrs iechyd meddwl.

Dywedodd Chris Williams o Gyrfa Cymru Gwent, "Roedd y toriadau mewn swyddi yn Corus yn anodd iawn i'r gweithwyr wrth gwrs, ac felly fe fuom yn gweithio gyda'r Cyngor Cenedlaethol - ELWa a Chanolfan Gwaith Plws yn ein swyddfeydd ar y safle i sicrhau ein bod ar gael bob amser i roi cyngor ac arweiniad.

"Mae Andrew yn un o nifer o bobl a ddefnyddiodd ein cymorth ac mae yn awr wedi cael ei ddewis i ailhyfforddi ar gyfer swydd hollol newydd."

Cychwynnodd Andrew, 37, o Markham, ei yrfa yn y fyddin cyn symud ymlaen i ddiwydiant trwm. Roedd wedi treulio ychydig dros 12 mlynedd yn gwneud dur yn Llanwern, ond pan welwyd bod dyfodol y safle yn ansicr, cysylltodd Gyrfa Cymru Gwent am gyngor.

"Roeddwn wedi bod yn meddwl am yrfa mewn nyrsio ar hyd yr amser oherwydd mae nifer o aelodau fy nheulu yn y byd meddygol, ond wrth gwrs, gyda theulu i ofalu amdanynt, nid oeddwn yn ei hystyried yn opsiwn i adael swydd dda i fynd i goleg nyrsio.

"Ond pan welwyd bod y gwaith dur yn mynd i gau roedd rhaid i mi ail-asesu ac roedd fy ngwraig Tracey a'm merch Zowie yn gefnogol iawn. Rwyf newydd gychwyn ar y cwrs yn awr ac rwyf yn araf ddod yn l i'r arfer o astudio.

Bydd Andrew yn awr yn astudio ym Mhrifysgol Morgannwg am dair blynedd i gymhwyso fel nyrs iechyd meddwl. Bydd y cwrs yn cynnwys 50 y cant o theori yn y brifysgol ac yna 50 y cant ar leoliad mewn ysbytai lleol.

Dywedodd "Fe fu Christine o Gyrfa Cymru Gwent yn wirioneddol gefnogol. Fe wnaeth i mi gredu ei bod yn bosibl newid gyrfa mewn ffordd mor sylweddol ac yna fe fu'n helpu i ddatrys y manylion gweinyddol oedd yn ofynnol."