Blwyddyn o newid a blwyddyn o sialensiau mae'n debyg yw'r ffordd orau o grynhoi 12 mis sydd ymhlieth y mwyaf cofiadwy yn hanes Gyrfa Cymru Gwent.

Roedd yn amser o ehangu, wrth i'n staff gynyddu o fwy nag 20% er mwyn ymestyn ein gwasanaeth i oedolion yn ogystal phobl ifanc - gan gynnig cadwyn werthfawr o gefnogaeth gydol oes.

Rhoddwyd y newid mawr hwn i'n strwythur ar brawf yn syth wrth i ni wynebu gofynion cefnogaeth anferth y gweithwyr oedd yn cael eu diswyddo gan Corus yng Nglyn Ebwy a Llanwern.

Fe wnaeth y gwaith hwn, na welwyd ei debyg o'r blaen, ni'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd hyfforddiant parhaus i'n staff ein hunain, a hefyd bwysigrwydd perthynas gref gyda chyrff sy'n bartneriaid i ni fel ELWa, Canolfan Gwaith Plws a'r WDA, y mae eu gwaith yn gorgyffwrdd 'n gwaith ni.

Rhoddodd y gwasanaeth ehangach yr hyblygrwydd i ni ymateb i'r argyfwng hwn a dwyn cefnogaeth hanfodol i bobl leol ar adeg bwysig yn eu bywydau.

Rydym hefyd wedi cryfhau ein gallu i roi'r ymateb gorau posibl mewn argyfwng ac yn ein gweithgareddau arferol, trwy gynnal ein rhaglen hyfforddi staff fwyaf eang hyd yn hyn. Mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei barhau yn ddiflino wrth i ni anelu at ddarparu gwasanaeth sy'n gynyddol effeithiol i gleientiaid o bob oed. Rhoddwn werth mawr ar ein cysylltiadau cynyddol gyda chyflogwyr lleol. Cynigiodd bron i 3,000 ohonynt leoliadau gwaith i gyfanswm o 8,600 o bobl ifanc yn ystod y flwyddyn. Roedd llawer o'r lleoliadau hyn mewn mathau newydd o swyddi sy'n adlewyrchu'r newid yn yr economi gan roi cyfle i ddisgyblion gael blas ar rai o'r dewisiadau gyrfa mwyaf blaengar.

Mae cannoedd o gyflogwyr hefyd yn rhoi eu hamser fel mentoriaid neu fodelau rl entrepreneuraidd i helpu pobl ifanc i ddeall byd gwaith yn gyffredinol a rl menter yn arbennig.

Mae'r cysylltiadau hyn gyda diwydiant yn agor ystod o gyfleoedd eraill sy'n ein galluogi i ehangu ein gwasanaeth i bobl ifanc ac oedolion yn ogystal bod o fudd i'r busnesau eu hunain.

Er mwyn rhoi cefnogaeth ychwanegol i bobl ifanc o gwmpas yr amser y byddant yn gadael yr ysgol fe wnaethom ddatblygu'r rhaglen Porth yr Ifanc ymhellach, gan weithredu allan o dair canolfan ranbarthol a gynlluniwyd i dargedu'r bobl ifanc hynny sy'n brin o hyder, ysgogiad neu eglurder am eu dyfodol. Bu hyn yn llwyddiannus iawn, o ran y niferoedd sydd wedi cymryd rhan a'r canlyniadau cadarnhaol.

Roeddem yn arbennig o falch yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o weld ein Nod Siarter gan y Llywodraeth yn cael ei adnewyddu wedi ei ennill dair blynedd yn l. Roedd hyn yn dilyn asesiad trylwyr ar ein gweithgareddau, oedd yn cydnabod ein bod yn ymroddedig i gynnig y gwasanaeth o'r ansawdd uchaf posibl i'n cleientiaid a'n cymunedau.

Rydym yn falch iawn o dderbyn y gydnabyddiaeth eto, ac rydym yn cymryd camau eraill i sicrhau ein bod yn parhau i wella.

Yn ystod y flwyddyn fe wnaethom gael budd hefyd o'n cyswllt agosach gyda chwmnau gyrfaoedd eraill yng Nghymru trwy'r strwythur Gyrfa Cymru newydd. Heblaw am fanteision rhannu profiad ac ymarfer gorau roeddem hefyd yn medru gweithio gyda'n gilydd i wella cyfathrebu, yn arbennig trwy ystod ehangach o ddeunydd gwybodaeth i'n cleientiaid o bob oed.

Yn olaf fe hoffwn dalu teyrnged i'n bwrdd cyfarwyddwyr - pobl dalentog gyda chymwysterau o'r radd flaenaf a dynnwyd o sawl cylch yn yr economi a'r gymdeithas - sy'n rhoi eu hamser a'u harbenigedd yn rhad ac am ddim.

Mae'r bobl ymroddedig hyn, ynghyd 'n staff medrus a theyrngar, yn ein galluogi i ddarparu gwasanaeth o wir werth i holl bobl Gwent.