Mae Chris Kenward, deunaw oed yn gwybod nad oes ffordd hudol o sefydlu gyrfa anarferol, ond trwy weithio gyda Gyrfa Cymru, Gwent, y mae yn awr yn nes at wireddu ei freuddwyd.

Wedi ei ysbrydoli gan brif gonsuriwr stryd America, David Blaine, fe wyddai Chris o Rogerstone ei fod am ddysgu am y grefft o wneud gwaith consurio ar y stryd gan obeithio troi'r hobi yn yrfa.

Gan ddangos ymrwymiad rhyfeddol, chwiliodd Chris y Rhyngrwyd am gonsuriwr i'w ddysgu am y grefft ond fe sylweddolodd ei fod angen cyngor a chefnogaeth gyrfaoedd os oedd am lwyddo fel consuriwr.

Dywedodd Chris, "Fe wnes i'n llythrennol gerdded i mewn i'r Ganolfan Gyrfaoedd a gofyn iddynt fy helpu i ddod yn gonsuriwr proffesiynol. Dwi'n meddwl eu bod wedi synnu braidd gan gais mor anarferol ond wnaeth hynny ddim eu rhwystro rhag bod yn help gwirioneddol ac yn gefnogol.

"Mae fy nhiwtor yn America ac rwyf yn dysgu trwy e-bost a fideos. Rwyf yn gwneud yn dda ond roeddwn angen cyngor ar sut i gychwyn arni."

"Mae fy ngynghorydd gyrfaoedd wedi fy helpu i anfon llythyrau at asiantaethau Llundain yn ogystal ag edrych ar leoliadau eraill fel Llongau Gwyliau lle gallaf ymgeisio am waith."

Dywedodd cynghorydd Porth yr Ifanc Chris, Sarah Jane Bailey "Mae'n ddyn ifanc penderfynol iawn ac mae eisoes wedi dangos ei benderfyniad wrth ddod o hyd i diwtor. Fel ei gynghorydd, rwyf fi wedi bod wrth lawr i'w gefnogi gan ei helpu i ystyried sut i ddefnyddio ei sgiliau hud a lledrith i lunio gyrfa."