Bachodd cynghorwyr Gyrfa Cymru Gwent safle da i gyflwyno eu neges i'r gymuned wrth sefydlu eu stondin wrth ochr y masnachwyr.

Fel rhan o'r ymrwymiad i fynd gwybodaeth gyrfaoedd allan i'r cyhoedd, bu Cynghorwyr Gyrfaoedd yn Rhanbarth y Gogledd Orllewin (Blaenau Gwent a Dwyrain Caerffili) yn cyflwyno eu neges i'r cyhoedd ar ddyddiau marchnad a chawsant eu calonogi gan yr ymateb a dderbyniwyd gan siopwyr a masnachwyr fel ei gilydd.

Gan gyflwyno beiros hyrwyddo a balwns a rhoddion eraill buont yn targedu cannoedd o bobl na fyddai fel arall yn croesi trothwy canolfannau gyrfaoedd.

Roedd y fenter hon yn un o nifer o ddigwyddiadau "allestyn" arbennig a drefnwyd dros fisoedd yr haf.

Meddai Roger Harris, Rheolwr Cyfathrebu a Systemau yng Ngyrfa Cymru Gwent, "Bu cydweithio gyda'r masnachwyr yn llwyddiannus iawn ac roedd rheolwyr y farchnad leol yn gefnogwyr brwd gan roi safleoedd gwych i ni. Roedd yn gyfle gwych i gymysgu gyda'r gymuned leol a chodi ymwybyddiaeth o'r math o gymorth a chefnogaeth y gallwn ei gynnig. Gobeithiwn adeiladu ar y syniad y flwyddyn nesaf."

Ymhlith y digwyddiadau cyhoeddus eraill a gynhaliwyd mewn canolfannau gyrfaoedd ar draws y rhanbarth roedd sioe ar y ln Radio'r Cymoedd gyda'r bwriad o ddweud wrth bobl o bob oed am gael cyngor cyn gwneud penderfyniadau am eu gyrfa.