Derbyniodd 17,504 o bobl ifanc becynnau gwybodaeth gyrfaoedd (targed 17,504)

Cynhaliwyd 2,043 sesiwn grŵp i bobl ifanc (targed 2,308)

Cynhaliwyd 22,221 cyfweliad arweiniad gyrfaoedd gyda phobl ifanc (targed 24,344), 11,058 yn arwain at gynllun gyrfa bersonol (targed 12,469)

Lleolwyd 1,627 o bobl ifanc gan staff Gyrfa Cymru Gwent (targed 1,560).

Trafododd 2,019 o rieni neu warcheidwaid ddyfodol eu plant yn unigol gyda Chynghorwyr Gyrfaoedd (targed 2,392)

Cymerodd 8,693 o bobl ifanc ran mewn profiad gwaith (targed 8,888)

Darparodd 2,838 o gyflogwyr leoliadau profiad gwaith (targed 2,730)

Cymerodd 6,228 o bobl ifanc ran mewn gweithgareddau ymwybyddiaeth o fenter a busnes (targed 5,979)

Derbyniodd 5,051 o oedolion wybodaeth gyrfaoedd (targed 4,800)

Derbyniodd 1,456 o oedolion gynllun cyfarwyddyd gyrfaoedd (targed 1,300)

CYNLLUN CYDRADDOLDEB HILIOL Yn unol o'r Ddeddf (Diwygio) Cysylltiadau Hiliol 2000, fe wnaethom gyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Hiliol ym Mehefin 2002. Byddem yn falch iawn o dderbyn eich sylwadau. Gofynnwch am gopi llawn a gadewch i ni wybod beth yw eich barn.

GWNEUD PETHAU'N IAWN Rydym yn rhoi gwerth ar gwynion, gan eu bod yn ein helpu i wella ein gwasanaethau. Yn ystod y cyfnod Ebrill 2001/Mawrth 2002 fe wnaethom dderbyn pum cwyn, ac fe lwyddwyd i ddatrys y pump.