Mae Victoria Prewett, o Abertyleri yn llunio gyrfa newydd yn y gegin diolch i'r help a'r gefnogaeth unigol a dderbyniodd gan Gyrfa Cymru Gwent.

Mae gan Victoria, 22, anawsterau dysgu ac mae wedi gweithio'n glos gyda Thm Anghenion Arbennig Gyrfa Cymru Gwent ers iddi adael yr ysgol chwe blynedd yn l.

Erbyn hyn mae wedi cychwyn cwrs NVQ mewn arlwyo yng Ngholeg Gwent, Crosskeys, diolch i ymagwedd newydd flaengar gan gynghorwyr gyrfaoedd.

Dywedodd Adrian Summers, Arweinydd Tm Anghenion Arbennig Gyrfa Cymru Gwent, "Wedi astudio am y Wobr Ieuenctid ASDAN mewn sgiliau bywyd a chwblhau cwrs garddwriaeth, fe welodd Victoria y byddai'n rhaid iddi symud i hyfforddiant ac addysg prif-ffrwd. Ond roedd problem gyda theithio gan na fyddai mwyach yn cael y trefniadau cludo arbennig yr oedd wedi eu defnyddio cyn hynny.

"Ond roeddem newydd benodi Emma Critchlow, mentor anghenion arbennig y mae ei swydd yn cael ei hariannu gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd ac fe gynigiodd hi'r ateb. Fe roddodd Victoria ar gwrs 'bws' pythefnos i helpu i gynyddu ei hyder a'i medr wrth deithio i'r cwrs arlwyo yn Crosskeys ar ei phen ei hun ar gludiant cyhoeddus.

"Roedd hwn yn gyfeiriad newydd i'r tm anghenion arbennig ond yn sicr mae'n ymddangos fel pe bai wedi talu ei ffordd ac mae Victoria yn cynefino'n dda yn ei chwrs dwy flynedd."

Ychwanegodd Emma, "Roedd yn hanfodol medru trin achos Victoria yn unigol a dod o hyd i ateb i'w phroblem benodol. Trwy ennyn hyder ynddi i ddefnyddio'r bws a theithio i'r coleg ei hun, gobeithiwn y bydd yn medru dangos cynnydd da mewn Arlwyo ac yn medru dod o hyd i swydd ar ddiwedd y cwrs."