Pan adawodd Lee Jones o Gwmtyleri yr ysgol yn 16, nid oedd ganddo unrhyw syniad beth fyddai yn ei wneud nesaf.

Yn awr ychydig fisoedd yn ddiweddarach mae'n camu i gyfeiriad pendant iawn, wedi iddo gwblhau ei hyfforddiant sylfaenol yn barod ar gyfer gyrfa addawol yn y fyddin.

Arweiniwyd Lee ar y llwybr cywir diolch i brosiect Porth yr Ifanc Gyrfa Cymru Gwent, sy'n rhedeg cyrsiau i bobl ifanc rhwng 15 a 18 oed sydd angen llawer o gymorth a chyngor am hyfforddiant neu gyflogaeth.

Yn ystod y cwrs Porth yr Ifanc wythnos o hyd, dysgodd Lee sut i wneud y mwyaf o'i CV a datblygodd ei dechneg cyfweliad.

Arweinydd prosiect Lee, Rhian Evans a drefnodd ei gyfarfod cyntaf gyda phanel recriwtio'r fyddin.

"Fe wnaeth Lee fwynhau cwblhau'r cwrs Porth yr Ifanc ac fe adawodd gyda syniad llawer gwell o ba gyfeiriad yr oedd am fynd," esboniodd Rhian. "Pan fydd pobl ifanc yn gadael y cwrs rydym yn parhau i'w cynghori, ac yn achos Lee fe wnaethom ei gefnogi trwy gydol proses ddewis y fyddin ac fe'n gwahoddwyd i'w orymdaith ymadael hyd yn oed.