Bu ychydig o gyngor ar yr adeg iawn o gymorth i'r egin fardd o Went, Carl Griffin, i ddarganfod y mydr angenrheidiol i newid o osod brics i lunio penillion.

Roedd Carl yn fachgen ifanc 16 mlwydd oed swil pan aeth i mewn i fenter Porth yr Ifanc Gyrfa Cymru Gwent, ond wedi ennill ei ymddiriedaeth, fe welodd ei gynghorydd Sarah Jane Bailey ei wir dalent fel bardd a llenor.

Ag yntau wedi ei gofrestru i ddechrau ar gwrs gosod brics, fe ddaeth yn amlwg i Sarah a'i ymgynghorwyr yn Bridge Training nad dyma lle'r oedd prif dalent Carl ac fe'i symudwyd i fod ar gwrs NVQ lefel 1 mewn TG.

Trwy roi iddo'r cyfle i ddysgu sut i weithredu cyfrifiaduron, rhyddhawyd doniau creadigol Carl ac mae wedi parhau i ysgrifennu amrywiaeth o farddoniaeth am faterion yn ymwneud phobl yn eu harddegau ac am ei dref enedigol, Casnewydd, gan gynnwys y cerflun enwog o'r Don yno.

Dywedodd, "Rwyf yn cael fy ysbrydoli i ysgrifennu trwy deipio geiriau o bob math ac yna rwyf yn eu defnyddio i ysgrifennu fy marddoniaeth. Rwyf hefyd yn ysgrifennu nofel am droseddwyr ifanc sy'n meddiannu eu sefydliad a'i redeg eu hunain. Rwyf yn gobeithio parhau i 'sgwennu ffuglen i'r arddegau gan fyd mod yn mwynhau ei ddarllen fy hun a'i fod yn rhywbeth yr wyf yn ei ddeall"

Dywedodd Sarah Jane, "Mae Carl yn llenor talentog iawn, ond roedd angen hwb ymlaen i gynyddu ei hyder. Bum yn gweithio'n glos gydag o a Bridge Training i geisio gweld beth fyddai'r dull gorau o'i helpu i roi ei yrfa ar y gweill.

"Yn aml gyda Phorth yr Ifanc mae'n hanfodol dod i adnabod y person o ddifrif a'u helpu mewn ffordd unigol iawn. Yn aml nid yw'r bobl yr wyf yn gweithio gyda nhw wedi llwyddo mewn amgylchedd ysgol draddodiadol ac felly rhaid i ni wneud yn siŵr bod ein cyngor ni wedi ei deilwrio yn benodol ar gyfer eu hanghenion- rhywbeth na fedrwn ei gyflawni ond trwy gyfathrebu parhaus."