Ar gais Llywodraeth Cynulliad Cymru, cynhaliodd Gyrfa Cymru Gwent a chwmnau gyrfa ledled Cymru werthusiad trylwyr o'r gwasanaeth a ddarperir i fyfyrwyr Blwyddyn 11 a'u rhieni yn ogystal rhieni a myfyrwyr chweched dosbarth a choleg.

Yn gyfan gwbl, cwblhaodd 504 o Fyfyrwyr Blwyddyn 11 holiaduron am eu cyfweliad gyrfaoedd, llenwodd 657 holiaduron gwaith grwp tra gofynnwyd i 120 o'u rhieni a'u gwarcheidwaid ymateb i holiaduron a chyfweliadau ar y ffn. Yn ychwanegol cynhaliwyd 14 grwp ffocws gyda myfyrwyr Blynyddoedd 11, 12 a 13.

Roedd y grwpiau ffocws yn gyfle gwerthfawr i glywed barn myfyrwyr wyneb yn wyneb am ein gwasanaeth, gan gynnwys: y cyfweliad arweiniad, gwaith grwp, profiad gwaith, llyfrynnau a dulliau o ddefnyddio'r gwasanaeth.

Y cyfweliad gyrfaoedd un i un oedd y gwasanaeth y rhoddid gwerth mwyaf iddo gan Fyfyrwyr Blwyddyn 11 a myfyrwyr chweched dosbarth. Teimlai'r mwyafrif ei fod yn "gwneud gwahaniaeth" trwy, er enghraifft, eu helpu i wneud dewisiadau ac ystyried eu nod yn y tymor hir, ehangu eu syniadau, ymchwilio i wybodaeth, canolbwyntio ar eu camau nesaf a chynllunio'r ffordd ymlaen.

Mae'r gwerthusiad hwn, ynghyd gweithgareddau gwerthuso gyda grwpiau eraill o gleientiaid, yn ein helpu i ddynodi ac ystyried y materion allweddol a chynllunio ein gweithgareddau busnes ar gyfer 2003-04 yn unol hynny.