Mae dwsinau o bobl sydd wedi cymryd y cam dewr o sefydlu eu mentrau eu hunain yn awr yn rhannu eu profiad gyda disgyblion Gwent gan ddweud yn union sut y mae byd menter wedi eu trin.

Fel rhan o'r Prosiect Dynamo - a redir yng Ngwent dros y WDA gan Gyrfa Cymru Gwent - mae'r "modelau rl" hyn o wahanol sectorau yn ymweld ag ysgolion i ddweud wrth bobl ifanc am y cyffro a'r budd a ddaw o redeg eu busnes eu hunain.

Mae eu disgrifiadau yn esbonio'r sialensiau sydd i'w wynebu ond hefyd yr ymdeimlad cryf o foddhad a geir o sefydlu rhywbeth newydd a gwneud iddo weithio.

Un o'r rhai sy'n cymryd rhan yw, Angela Gidden, o Went, un a fu'n Gymraes y Flwyddyn, sydd wedi rhedeg ei chwmni dylunio llwyddiannus ei hun ers 10 mlynedd.

Dywedodd: "Fy rl i yw cyflwyno dewisiadau gyrfa a bywyd i bobl ifanc a rhoi'r gallu a'r grym iddynt a'u hannog i feddwl am y cyfleoedd gwahanol ym myd busnes a'r rhyddid o fod yn feistr arnoch eich hun.

"Mae creu ac archwilio potensial rhywbeth yr ydych wrth eich bodd yn ei wneud, yn credu'n gryf ynddo neu hyd yn oed yn gwybod amdano, yn un allwedd i reoli eich tynged a'ch dyfodol eich hun," ychwanegodd.

Rhoddwyd derbyniad da iawn i'w neges gan ddosbarth o rai 14 oed yn Ysgol Gyfun Abersychan ger Pontypwl, lle bu Angela yn siarad yn ddiweddar:

Dywedodd un o'r disgyblion, Sarah Hardwick: "Fe wnes i fwynhau clywed am fywyd Angela a pham ei bod wedi penderfynu sefydlu ei busnes ei hun. Fe fyddwn yn ystyried sefydlu fy musnes fy hun oherwydd mae'n golygu bod gennych y rhyddid i wneud penderfyniadau pwysig drosoch eich hun."

Tebyg oedd ymateb ei chyd-ddisgybl, Rachael Mealing, a ddywedodd: "Bu Angela yn siarad gyda ni am ei syniadau, rhai ohonynt wedi bod yn llwyddiannus a rhai yn aflwyddiannus. Nid wyf erioed wedi ystyried y posibilrwydd o redeg fy musnes fy hun ond wedi gwrando ar Angela rwy'n meddwl y gall fod yn rhywbeth y byddaf yn ei ystyried yn y dyfodol."

Gwnaed argraff ar Lauren Oram hefyd. "Rwyf yn hoff iawn o'r syniad o redeg fy musnes fy hun. Fe wnes i ddysgu llawer iawn trwy gyflwyniad Angela gan ei bod yn siarad am ei phrofiadau busnes go iawn hi ei hun."

Ychwanegodd Prif Weithredwraig Gyrfa Cymru Gwent, Trina Neilson: "Dyma brosiect llwyddiannus iawn. Mae wedi bod yn agoriad llygad o ddifrif i'r plant gan roi ysbrydoliaeth iddynt feddwl y gallant ryw ddiwrnod fedru gwneud yr un peth.

"Mae hyn yn bwysig gan fod llawer mwy o gyfleoedd ar gyfer entrepreneuriaeth heddiw, gan gynnwys llawer o wasanaethau sy'n cael eu contractio allan. Mae'r sesiynau hyn yn helpu'r bobl ifanc i ddeall y posibiliadau," ychwanegodd.