Gall camu yn l i addysg fod yn brofiad brawychus, ond, i staff Cartref Nyrsio Highfields, roedd cymorth wrth law.

Bu tm datblygu Gweithlu Gyrfa Cymru Gwent yn ymweld 'r staff yn y cartref yn y Coed-duon i'w helpu i gynllunio'r hyfforddiant a'r datblygu y maent ei angen yn awr i weithredu'n effeithiol yn y sector cartrefi gofal.

Mae Highfields yn cyflogi cyfanswm o 64 o bobl ac yn darparu ar gyfer preswylwyr tymor hir a'r rhai sy'n ymweld am ofal seibiant.

Dan reoliadau newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cartrefi gofal, rhaid i o leiaf hanner y cynorthwywyr gofal mewn unrhyw gartref fod wedi cychwyn astudio neu fod wedi cwblhau'r NVQ Gofal Sylfaenol 2 erbyn 2005.

Dywedodd Paty Wysom o dm datblygu Gweithlu Gyrfa Cymru Gwent, "Roeddem yn gwybod bod y safonau gofal sylfaenol newydd hyn yn cael eu cyflwyno ac yn sylweddoli y gallai nifer o'r bobl y byddent yn effeithio arnynt fod angen cymorth i gael gafael yn yr hyfforddiant yr oedd arnynt ei angen.

"Yn ychwanegol at hyn ni fyddai llawer wedi cael hyfforddiant ffurfiol ers blynyddoedd ac fe allent fod yn bryderus am gymryd y cam cyntaf.

"Bum yn ymweld chartref nyrsio Highfields a chynnal cyfweliadau un i un gyda phob cynorthwy-ydd gofal yno. I gychwyn roeddynt yn eithaf pryderus ond ar l ychydig wythnosau o ymweliadau dyddiol roeddwn wedi llunio perthynas dda gyda hwy ac fe welais fod llawer yn awyddus iawn i gychwyn arni."

Dywedodd Sheila Sheen, Metron y Cartref Nyrsio, "Roedd y ffaith bod Paty yn ymweld ni yma yn golygu bod pawb yn cael y cyfle i drafod unrhyw bryderon am yr hyfforddiant ar adeg fyddai'n gweddu i'w patrwm shifft. Bu'r ymateb yn hynod o gadarnhaol ac mae nifer o'r cynorthwywyr gofal eisoes wedi cychwyn ar yr hyfforddiant yng Ngholeg Ystrad Mynach."