Mae gan ein holl gleientiaid hawl i:

Wybodaeth ar: swyddi, gyrfaoedd addysg a hyfforddiant tueddiadau'r farchnad lafur, sut i ddod o hyd i swydd a'i chadw, budd-daliadau, lwfansau hyfforddi a grantiau

Arweiniad I'ch helpu i:

Gynllunio eich gyrfa yn y dyfodol, dynodi cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant ac addysg addas *gwneud penderfyniadau addas, ysgrifennu cynllun gyrfa personol, adolygu eich cynllun a'i weithredu

Cymorth ymarferol gyda:

*dod o hyd i leoliadau addas mewn addysg, hyfforddiant neu swyddi i bobl ifanc

Rydym yn rhoi addewid y byddwn yn:

Eich trin yn deg gyda chwrteisi a pharch, sicrhau bod yr holl wybodaeth a roddir i chi yn gywir ac yn ddiweddar, cynnig arweiniad i chi sy'n annibynnol a gyda'ch buddiannau gorau chi dan sylw, eich helpu i fanteisio ar bob cyfle sydd ar gael i chi beth bynnag fo eich oed, eich gallu, eich rhyw, eich cefndir ethnig neu eich angen arbennig, ymdrin yn brydlon ac yn deg gydag unrhyw gwynion fydd gennych.

EIN SAFONAU GWASANAETH

Rhai sy'n galw i mewn i ganolfannau gyrfaoedd:

Yn cael eu gweld o fewn 10 munud. Rhoddir esboniad am unrhyw oedi a rhoddir amser newydd. Os na fydd y person yr ydych chi eisiau ei weld yn bresennol byddwch yn cael apwyntiad o fewn 5 diwrnod gwaith. Bydd y staff yn gwisgo bathodynnau gyda'u henwau bob amser.

Galwadau ffn i ganolfannau gyrfaoedd:

Byddant yn cael eu hateb o fewn 4 caniad

Llythyrau at ganolfannau gyrfaoedd:

Byddant yn cael eu hateb o fewn 5 diwrnod gwaith. Os bydd angen mwy o amser ar gyfer ateb llawn, anfonir cydnabyddiaeth o fewn 5 diwrnod gwaith, gyda dyddiad ar gyfer yr ateb llawn

Pobl mewn addysg amser llawn:

Byddant yn cael cyfweliad gyrfaoedd o fewn 5 diwrnod gwaith o wneud cais am un *Byddant yn derbyn copi teipiedig o'r Cynllun Gyrfaoedd o fewn 15 diwrnod o'r cyfweliad

Pobl yn gofyn am wybodaeth gyrfaoedd:

Yn y ganolfan gyrfaoedd, byddant yn cael copi am ddim ar unwaith. Trwy'r post neu dros y ffn, anfonir gwybodaeth am ddim iddynt o fewn 5 diwrnod gwaith

Rhieni:

Os gofynnwch am gyfweliad gydag ymgynghorydd gyrfaoedd eich mab/merch, fe gewch apwyntiad o fewn 10 diwrnod gwaith.

Gair o ganmoliaeth, sylwadau neu gwynion:

Rydym yn croesawu sylwadau gennych ar unrhyw amser. Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth, byddem yn hoffi clywed gennych.

Cysylltwch 'ch canolfan gyrfaoedd agosaf a siarad gydag unrhyw aelod o'r staff, a fydd yn gwneud eu gorau i ddatrys y broblem yn syth

Os na fyddwch yn teimlo bod eich cwyn wedi ei thrin yn briodol, cysylltwch Rheolydd Rhanbarthol y ganolfan gyrfaoedd trwy lythyr, ffn neu yn bersonol. Bydd y Rheolydd Rhanbarthol yn cysylltu chi o fewn saith diwrnod.

Os na fyddwch yn fodlon eto, cysylltwch 'n Pennaeth Gweithgareddau yn ein Prif Swyddfa. Bydd hi yn ymchwilio i'ch cwyn yn drylwyr ac yn ysgrifennu ateb ysgrifenedig llawn i chi o fewn 21 diwrnod.

Os ydych yn berson ifanc ac nad ydych yn dymuno cwyno eich hun, gofynnwch i rywun arall, fel athro, rhiant neu ffrind gysylltu ni ar eich rhan.